Mae babi’n crio mewn bin yn y nos – wrth i Ddyn Diwyneb werthu tir am elw; mae tŵr tal yn codi – wrth i Goeden y Byd ysgwyd; ac mae tynged y byd yn dibynnu ar un edau sidan o we corryn.
Mae Binderella yn stori ar gyfer ein cyfnod ni, chwedl genedigaeth wyllt Gwrth-dduwies sy’n herio grymoedd trachwant a digalondid sy’n ceisio dwyn ein dyfodol oddi arnom. Mae’r stori ryfeddol anarchaidd hon yn rhoi cip i ni trwy’r craciau yn ein cymdeithas, gan gyfuno galwad i ymgyrch amgylcheddol gyda galwad ddyrchafol am gydymdeimlad a dewrder yn y cyfnod hwn o argyfwng.
Yn y perfformiad cyntaf hwn mae’r Ragged Storytelling Collective; Kestrel, Heulwen a Hazel, yn plethu eu gweledigaeth yn glytwaith unigryw, trwy bwytho egni chwedleua pync gydag edau deimladol o alaw werin a chân Gymreig yn yr epig chwyrn o fodern hon.
Datblygwyd y gwaith yn wreiddiol trwy gynllun Lleisiau Newydd Gŵyl Chwedleua Beyond the Border yn 2021 ac fe’i datblygwyd ymhellach trwy fuddsoddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arian y Loteri Genedlaethol. Gyda chefnogaeth greadigol gan y chwedleuwr adnabyddus yn rhyngwladol, Daniel Morden, a’r cerddor gwerin amlwg o Gymru, Oliver Wilson Dixon, bydd y sioe yn eich cyfareddu.Mae Kestrel yn berfformiwr deinamig ac angerddol gyda gweledigaeth unigryw. Mae Binderella yn gyfuniad difyr o atgofion, chwedlau a’r Matrix. Rhaid i chi ei gweld!
1 Comment
15.09.2024 – Binderella – The Ragged Storytelling Collective · 1st August 2024 at 1:24 pm
[…] Yn Gymraeg […]