Bydd y trwmpedwr jazz Tomos Williams yn dod a’i brosiect Cwmwl Tystion i’r Lost ARC fel rhan o’i taith o Gymru.

Mae’r cerddorion byd-enwog Soweto Kinch ac Orphy Robinson yn ymuno â’r gantores Gymreig ifanc Eady Crawford a’r adran rythm wych; Aidan Thorne a Mark O’Connor, ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt, i greu perfformiad byw rhyngweithiol yn dwyn y teitl Cwmwl Tystion II / Riot!

Bydd y band yn perfformio cyfres a gyfansoddwyd o’r newydd sy’n cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig. Mae’r enw ‘Cwmwl Tystion’ yn deillio o gerdd y bardd Waldo Williams, tra bod y themâu ar gyfer pob symudiad yn tynnu ar wahanol derfysgoedd yn hanes Cymru. Wedi’i hysbrydoli’n gryf gan waith Wadada Leo Smith, John Zorn a Don Cherry, bydd y gerddoriaeth hefyd yn ystyried themâu hil ac hunaniaeth.

Noddir ‘Cyfres Cwmwl Tystion’ gan Dŷ Cerdd, a gwnaethpwyd y daith yn bosibl yn sgil cefnogaeth ariannol hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

“Cyffrous, a chwbl Gymraeg…yn cynrychioli Cymru amlhiliol, amlddiwylliannol ac amlhaenog – yr hen a’r newydd yn dod ynghyd” – Sioned Webb, Barn

Soweto Kinch – sacsoffôn, rap

Eady Crawford – llais, effeithiau electroneg

Tomos Williams – trwmped

Orphy Robinson – feibraffon, effeithiau electroneg

Aidan Thorne – bas

Mark O’Connor – drymiau

Simon Proffitt – celfyddyd weledol fyw

Tocynnau